Date: Tue 10 Jan 2017

“Welsh Premier League standard has improved since 3G revolution” – Sgorio’s Malcolm Allen

Former Wales footballer and Sgorio commentator Malcolm Allen believes that the introduction of 3G pitches at Dafabet Welsh Premier League clubs has helped improve the standard of play in the league.

The former Watford, Norwich and Newcastle United striker has been a part of the Sgorio team ever since S4C’s flagship football programme began to show live matches from the Welsh top flight in 2008.

Sgorio returns to the screen on Saturday, January 14, with live coverage of Cefn Druids v Carmarthen Town from The Rock, in a match which could have a significant bearing on who makes the all-important top six for the second half of the season. You can follow all the day's results with the Sgorio goals and results service and see the pre-match preview at 16.30 on s4c.cymru/sgorio.

Malcolm Allen, who hails from Deiniolen, said, “The 3G pitches have made a huge difference to the league. Games are being played at a higher tempo and they are more exciting. The 3G pitches can also be used by the club’s academies. Not many games are being postponed, which didn’t always used to be the case.

“The two next steps I’m looking forward to most, are seeing the teams who qualify for Europe getting through to the group stages - I think that’s just a matter of time, as the league gets stronger – and for clubs to employ managers on a full-time basis to help bring the club closer to the community and to the academy.”

Allen also believes measures should be put in place to prevent big clubs in England from snapping up young Welsh talent.

“With the existing academy structure I hope we’ll see more good youngsters being produced in the next few years. If I had my own way, academy players wouldn’t be allowed to leave
Wales before they turn 18 because at the moment they’re getting signed by professional clubs in England. Some then get released at 18 or 19 and they give up football because they think they’re not good enough.

“Now you have a league which has a professional approach, in terms of coaching and management, and those young players could be brought into those clubs, part-time but on good money. That would help us build a higher level among the teams in the league.”

Not only is the standard improving on the pitch, but clubs are adopting a more professional mindset off it, according to Malcolm.

“We’ve been showing live league matches since 2008, and one each week for the last five years now, so that’s a huge plus. It raises the league’s profile and given it a much more professional image, so people are treating it more seriously these days.

“You’ve got the likes of Owain Tudur Jones, Osian Roberts and Dai Davies, who are international players and coaches coming on the programme to analyse the games. We’re never standing still on Sgorio, we’re always learning and always aiming to improve.”

Sgorio
Every Saturday, 5pm, and every Monday, 6.30pm
Online results and preview show every Saturday at www.s4c.cymru/sgorio, 4.30pm
Also available to watch on-demand at s4c.cymru, iPlayer and other platforms
English commentary and subtitles available
A Rondo Media production for S4C

“Safon Uwch Gynghrair Cymru wedi gwella ers i glybiau osod caeau 3G” – Malcolm Allen o Sgorio

Mae safon y chwarae yn yr Uwch Gynghrair Cymru Dafabet wedi codi ers i glybiau ddechrau gosod caeau 3G, meddai’r cyn chwaraewr Cymru a sylwebydd Sgorio Malcolm Allen. Mae’r cyn ymosodwr, a chwaraeodd dros Watford, Norwich a Newcastle United yn ei yrfa, wedi bod yn rhan o dîm Sgorio ers i’r gyfres boblogaidd ddechrau dangos gemau o’r gynghrair genedlaethol yn 2008.

Bydd Sgorio yn dychwelyd i'r sgrin ddydd Sadwrn 14 Ionawr, wrth ddangos gêm Derwyddon Cefn v Caerfyrddin yn fyw o’r Graig, gêm allweddol yn y ras am le yn y chwech uchaf ar gyfer ail hanner y tymor. Gallwch hefyd ddilyn holl ganlyniadau’r diwrnod a chael rhagolwg i’r gêm, wrth wylio gwasanaeth ar-lein Sgorio am 4.30 ar s4c.cymru/sgorio.

Dywedodd Malcolm Allen, sy'n hanu o Ddeiniolen, "Mae caeau 3G wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r gynghrair. Mae’r gemau yn cael eu chwarae ar dempo uwch ac yn fwy cyffrous, ac mae’r academi yn cael defnydd allan ohonyn nhw hefyd. O’r blaen, roedd gemau yn cael eu gohirio, ond erbyn ran dyw hynny ddim yn digwydd cymaint.

“Y ddau gam dw i’n edrych ymlaen at eu gweld nesaf, ydi tîm yn cyrraedd rownd y grwpiau yn Ewrop - dw i’n meddwl fod hyn yn fater o amser wrth i’r gynghrair gryfhau – a gweld clybiau yn cyflogi rheolwyr yn llawn amser, i helpu dod a’r clwb yn agosach at y gymuned a’r academi.”

Mae Allen yn credu dylai fod fwy yn cael ei wneud i atal clybiau mawr Lloegr rhag denu chwaraewyr ifanc o Gymru.

“Efo’r strwythur academi sydd gyda’r clybiau, dw i’n gobeithio bydden ni’n cynhyrchu mwy o chwaraewyr ifanc yn y blynyddoedd nesa’. ‘Swn i’n cael fy ffordd fyddai chwaraewyr academi ddim yn cael gadael Cymru nes bod nhw’n troi’n 18, oherwydd ar y funud mae clybiau o Loegr yn arwyddo nhw’n ifanc. Mae rhai ohonyn nhw’n cael eu rhyddhau gan y clybiau yn 18 neu 19 oed, ac mae rhai yn rhoi’r gorau i bêl droed achos fod nhw ddim yn meddwl bod nhw’n ddigon da.

“Ond ran, mae gennym ni gynghrair efo meddylfryd proffesiynol, o ran hyfforddiant, ac mae gan y chwaraewyr ifanc gyfle i chwarae dros glybiau’r Uwch Gynghrair. Mae’n waith rhan amser ond yn ennill arian da. Fyddai hynny wedyn yn helpu codi safon y gynghrair unwaith eto.”

Nid yn unig y mae’r safon yn codi ar y meysydd, ond oddi arnynt hefyd, yn ôl Malcolm.

“Mae Sgorio wedi bod yn dangos gemau’n fyw ers 2008, ac un bob wythnos am y pum mlynedd diwethaf, ac mae hynny wedi bod yn hwb fawr. Mae’n codi proffil y gynghrair ac yn gwneud iddo edrych yn broffesiynol, felly mae mwy o bobl yn trin y gynghrair yn fwy o ddifri. Mae gennyt ti bobl fel Owain Tudur Jones, Osian Roberts a Dai Davies, sydd wedi chwarae a hyfforddi ar y lefel ryngwladol, i ddadansoddi’r gemau. ‘Da ni byth yn sefyll yn llonydd yn Sgorio, da ni wastad yn ceisio dysgu mwy a gwella.”

Sgorio
Bob Dydd Sadwrn, 5.00, a bob Dydd Llun, 6.30
Rhaglen canlyniadau ar-lein ar www.s4c.cymru/sgorio, bob dydd Sadwrn, 4.30
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Isdeitlau a Sylwebaeth Saesneg
Cynhyrchiad Rondo Media ar gyfer S4C

Don't worry, we hate spam as much as you do. We will only send you the latest updates and anything we think you will enjoy reading about.

Hit enter to send your tweet

Go to Youtube Channel
Michael Wilde (TNS) wins WPL Player of the Season & Top Scorer awards